Dyma’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 20 Chwefror 2014 ddarpariaethau canlynol Deddf 2013:
Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);
Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);
adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);
adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;
Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);
Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac
paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw weithred, datganiad neu gyfarwyddyd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei wneud o dan eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”), neu mewn perthynas â’r pwerau hynny, yn parhau i fod yn gymwys. Mae hefyd yn darparu y caniateir i gyfarwyddyd pellach, mewn perthynas â’r un materion, gael ei wneud o dan adrannau 496 i 497A o Ddeddf 1996.