Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cymru) (Rhif 6) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1793 (Cy. 186) (C. 78)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cymru) (Rhif 6) 2014

Gwnaed

7 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 199(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cymru) (Rhif 6) 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  1 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddiddymiad adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(2) (gweithdrefn gwyno) fel y darparwyd ar ei gyfer gan y cofnod yn Rhan 2 o Atodlen 14 i’r Ddeddf ac adran 196 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diddymiad hwnnw.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

7 Gorffennaf 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r chweched gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn cychwyn, ar 1 Awst 2014, ddiddymiad adran 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer oddi tani i’w gwneud yn ofynnol, drwy Orchymyn, i awdurdodau lleol sefydlu gweithdrefnau cwyno. Nid oes angen y pŵer hwn bellach gan fod Gweinidogion Cymru yn gallu ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu gweithdrefnau cwyno o dan bwerau yn adrannau 114 a 115 o’r Ddeddf.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Mae’r darpariaethau a gychwynnwyd drwy O.S. 2003/3346; O.S. 2004/759; O.S. 2005/457; O.S. 2005/2278; O.S. 2005/2925; O.S. 2006/836; O.S. 2006/1407; O.S. 2006/1680; O.S. 2006/2817; O.S. 2006/3397 ac O.S. 2007/1102, wedi eu cychwyn o ran Cymru a Lloegr. Mae’r darpariaethau a gychwynnwyd drwy O.S. 2004/480 (Cy.49); O.S. 2004/873 (Cy.88); O.S. 2005/3285 (Cy.249); O.S. 2006/345 (Cy.42) ac O.S. 2011/212 (Cy.43) wedi eu cychwyn o ran Cymru.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 11.4.20042004/759
Adrannau 2 i 41.1.20042003/3346
Adrannau 5 i 201.4.20042004/759
Adrannau 22 i 351.4.20042004/759
Adran 361.1.20042003/3346
Adrannau 37 i 391.4.20042004/759
Adran 401.1.20042003/3346
Adran 418.1.20042003/3346
Adran 4311.3.20042004/759
Adran 441.4.20042004/759
Adrannau 45 a 461.4.20042004/759
Adran 47 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adrannau 48 a 491.4.20042004/759
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20042004/759
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20062004/759 fel y’i diwygiwyd gan 2006/836
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20072004/759 fel y’i diwygiwyd gan 2006/836 a 2007/1102
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20082004/759 fel y’i diwygiwyd gan 2006/836
Adran 50(2) a (3)1.4.20052004/759
Adran 50(4)1.4.20062004/759
Adran 50(5)1.4.20042004/759
Adran 51(1) i (3), (5) a (6)1.4.20042004/759
Adran 51(4)1.4.20052004/759
Adran 52(1) i (4), (6) a (7)1.4.20042004/759
Adran 52(5)1.4.20052004/759
Adrannau 53 i 571.4.20042004/759
Adrannau 60 ac 611.4.20042004/759
Adrannau 64 i 681.4.20042004/759
Adrannau 70-75 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adrannau 92-101, o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1021.4.20042004/759
Adran 1031.4.20042004/759
Adran 105(1) a (6)1.8.20062006/1680
Adran 105(3) i (5) a (7)1.8.20062006/1680
Adran 1061.4.20042004/759
Adran 107 o ran Cymru1.4.20062005/3285 (Cy.249)
Adran 1081.4.20042004/759
Adran 109 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1111.4.20042004/759
Adran 114 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062005/3285 (Cy.249)
Adran 113(2), (3) a (4)7.2.112011/212 (Cy.43)
Adran 115(1), (2), (4), (5) a (6) o ran Cymru1.4.20062005/3285 (Cy.249)
Adran 115(3)7.2.112011/212 (Cy. 43)
Adran 116(2) a (3) o ran Cymru1.4.20062005/3285 (Cy.249)
Adran 117 o ran Cymru30.12.20052005/3285 (Cy.249)
Adrannau 118 a 1191.6.20042004/759
Adran 120 a 1211.4.20042004/759
Adran 1231.4.20042004/759
Adran 1241.4.20042004/759
Adran 1261.4.20042004/759
Adran 1281.4.20042004/759
Adran 1301.4.20042004/759
Adran 1321.4.20042004/759
Adran 1341.4.20042004/759
Adran 136 i 1381.4.20042004/759
Adran 1401.4.20042004/759
Adrannau 142 i 145 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1461.4.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)8.1.20042003/3346
Adran 147 o ran Cymru (yn rhannol)11.3.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)1.4.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)1.6.20042004/759
Adran 1481.1.20042003/3346
Adran 150(1) i (7) a (10) i (14)28.1.20072006/3397
Adrannau 151 i 16429.1.20072006/3397
Adrannau 166 I 16829.1.20072006/3397
Adran 169 (yn rhannol)29.1.20072006/3397
Adran 170 o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 170 o ran Cymru at y dibenion sy’n weddill1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 171(1) o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 171(1) o ran Cymru at y dibenion sy’n weddill1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 171(2) o ran Cymru1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 172(1) o ran Cymru15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 172(2) o ran Cymru1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 173 o ran Cymru15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480 (Cy.49)
Adran 175 o ran Cymru28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 176 o ran Cymru28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 177(1) i (11) o ran Cymru15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 177 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 177 at y dibenion sy’n weddill1.3.20072006/1407
Adran 178 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 178 at y dibenion sy’n weddill1.3.20072006/1407
Adran 179(1) o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 179(1) o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 179(2) o ran Cymru28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 180 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 180 o ran Cymru at y dibenion sy’n weddill15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 1811.4.20062005/2925
Adran 182(2) o ran Cymru15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 183 o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 183 o ran Cymru at y dibenion sy’n weddill1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480 (Cy.49)
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480 (Cy.49)
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062005/2925
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062006/345 (Cy.42)
Adran 185 (yn rhannol)12.8.2005 a 7.10.20052005/2278
Adran 185 at y dibenion sy’n weddill27.10.20062006/2817
Adran 18719.10.20042004/2626
Adran 18819.10.20042004/2626
Adran 189(1)1.4.20042004/759
Adran 1901.4.20052005/457
Adran 196 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480 (Cy.49)
Adran 196 (yn rhannol)1.4.20042004/759
Adran 196 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 196 (yn rhannol)1.4.20052005/457
Adran 196 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062005/2925
Adran 196 (yn rhannol)7.10.20052005/2278
Adran 196 (yn rhannol)29.1.20072006/3397
Adran 196 (yn rhannol)27.10.20062006/2817
Atodlen 11.4.20042004/759
Atodlen 21.1.20042003/3346
Atodlenni 3 i 51.4.20042004/759
Atodlen 68.1.20042003/3346
Atodlen 811.3.20042004/759
Atodlen 9
Paragraffau 1, 3, 5 i 8, 13 ac 31 (yn rhannol)8.1.20042003/3346
Paragraffau 2, 14, 16 i 20, 22, 23(a), 25, 29 a 301.4.20042004/759
Paragraffau 9 ac 111.6.20042004/759
Paragraff 121.4.20042004/759
Paragraffau 16 a 23(b) (yn rhannol)11.3.20042004/759
Atodlen 1029.1.20072006/3397
Atodlen 11 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480 (Cy.49)
Atodlen 11 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480 (Cy.49)
Atodlen 11 o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Atodlen 11 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062005/2925
Atodlen 11 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062006/345 (Cy.42)
Atodlen 11 (yn rhannol)1.3.20072006/1407
Atodlen 1219.10.042004/2626
Atodlen 14 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480 (Cy.49)
Atodlen 14 Rhan 11.4.20042004/759
Atodlen 14 o ran Cymru (yn rhannol)15.2.20062006/345 (Cy.42)
Atodlen 14 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062005/2925
Atodlen 14 Rhan 3 (yn rhannol a chyda darpariaethau arbed)29.1.20072006/3397
Atodlen 14 Rhan 4 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20062006/345 (Cy.42)
Atodlen 14 Rhan 4 (yn rhannol)27.10.20062006/2817
Atodlen 14 Rhan 4 (yn rhannol)1.3.20072006/1407
(1)

2003 p.43. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adran hon wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.