RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Awst 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “achwynydd” (“complainant”) yw person sy’n gwneud cwyn o dan reoliad 9, ac mae unrhyw gyfeiriad at achwynydd yn cynnwys cyfeiriad at gynrychiolydd yr achwynydd;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd San Steffan, yn ddydd Gwener y Groglith, nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19712;

  • ystyr “gweithdrefn gwynion” (“complaints procedure”) yw’r trefniadau a wneir o dan reoliad 3;

  • ystyr “gweithdrefn gwynion flaenorol” (“former complaints procedure”) yw’r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 20053 yn unol ag adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 20034;

  • ystyr “staff” (“staff”) yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod lleol neu a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau i awdurdod lleol;

  • ystyr “swyddog cwynion” (“complaints officer”) yw’r person a benodir o dan reoliad 5; ac

  • ystyr “ymchwilydd annibynnol” (“independent investigator”) yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol y gwnaed cwynion wrtho nac yn swyddog o’r awdurdod hwnnw, nac ychwaith yn briod neu’n bartner sifil aelod neu swyddog o’r fath, ond mae’n cynnwys person y mae’r awdurdod lleol wedi ymuno mewn contract am wasanaethau gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad.