Search Legislation

Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2SEFYDLU’R WEITHDREFN GWYNION

Dyletswydd i sefydlu gweithdrefn gwynion

3.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â’r rheoliadau hyn ar gyfer trin ac ystyried cwynion.

(2Rhaid i’r trefniadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod mewn ysgrifen.

Uwch-swyddog sy’n gyfrifol am gwynion

4.  Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog o’r awdurdod lleol i fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r weithdrefn gwynion a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.

Swyddog cwynion

5.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel swyddog cwynion.

(2Swyddogaeth y swyddog cwynion yw rheoli’r gweithdrefnau ar gyfer trin ac ystyried cwynion.

(3Caiff unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaeth y swyddog cwynion.

(4Nid oes angen i swyddog cwynion fod yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol a chaiff gael ei benodi’n swyddog cwynion ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol.

Cyhoeddusrwydd

6.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd effeithiol i’w weithdrefn gwynion, mewn amrywiaeth o gyfryngau, fformatau ac ieithoedd.

(2Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth am ei weithdrefn gwynion ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau, ac i’w gofalwyr os oes rhai.

(3Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) gynnwys enw swyddog cwynion yr awdurdod lleol a chyfeiriad lle y gellir cysylltu â’r swyddog cwynion.

(4Rhaid rhoi copi o’r weithdrefn gwynion yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn amdano, ym mha fformat bynnag y gofynnir amdano.

Ffurf y cyfathrebu

7.—(1Ceir anfon unrhyw gyfathrebiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan y Rheoliadau hyn at achwynydd yn electronig, pan fo’r achwynydd—

(a)wedi cydsynio mewn ysgrifen; a

(b)heb dynnu’n ôl, mewn ysgrifen, y cydsyniad hwnnw; ac

(c)wedi darparu cyfeiriad post electronig addas i’r awdurdod lleol.

(2Yn achos dogfen a anfonir yn electronig yn unol â’r Rheoliadau hyn, bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn fod dogfen wedi ei llofnodi gan berson penodol os yw’r unigolyn a awdurdodir i lofnodi’r ddogfen yn teipio ei enw neu’n gosod ei enw arni gan ddefnyddio cyfrifiadur neu ddull electronig arall.

Gwybodaeth a hyfforddiant i’r staff

8.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y rhoddir gwybod i’w staff am y trefniadau ar gyfer trin cwynion ac ymchwilio iddynt, ac yr hyfforddir ei staff yn briodol i weithredu’r trefniadau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources