Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2014.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cnydau âr” (“arable crops”) yw ydau, hadau llin, had olew, gwreiddgnydau, cnydau ffrwythau neu gnydau protein, gan gynnwys pys dringo;

  • ystyr “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) yw dyfarnu parsel cyfeirio yn rhan o ranbarth talu gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 ac mae i “parsel cyfeirio” yr un ystyr a roddir i “reference parcel” yn Erthygl 2(25) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio3;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin4.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Rhanbarthau3

1

At ddibenion Erthygl 23 o Reoliad y Cyngor, mae tri rhanbarth talu yng Nghymru, sef—

a

rhostir;

b

yr ardal dan anfantais ddifrifol;

c

pob tir arall.

2

At y dibenion hyn—

  • ystyr “rhostir” (“moorland”) yw unrhyw dir—

    1. a

      sydd wedi ei ddosbarthu gan Weinidogion Cymru fel rhostir ar Fap Rhostir Cymru 1992 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, a

    2. b

      y mae ganddo uchder o 400 o fetrau neu’n uwch, ac

    3. c

      y mae ganddo lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, neu sy’n cynnwys cerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, a ddefnyddir yn anad dim ar gyfer pori garw, a

    4. d

      nid oes ganddo fwy na 40% o’r rhywogaethau amaethyddol wedi eu gwella hynny a restrir yn yr Atodlen, ac

    5. e

      nid oes cnydau âr yn tyfu arno;

  • ystyr “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”) yw tir—

    1. a

      sydd yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu da byw yn llai dwys ond, heb fod yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu cnydau mewn niferoedd sydd yn sylweddol fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i fwydo’r cyfryw dda byw ag sy’n gallu cael eu cynnal ar dir o’r fath y mae ei gynhyrchiant amaethyddol wedi ei gyfyngu o ran ei ystod gan y pridd, y dirwedd, y wedd neu’r hinsawdd, neu gyfuniad ohonynt, a

    2. b

      sydd wedi ei nodi fel ardal dan anfantais ddifrifol ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “pob tir arall” (“all other land”) yw pob tir arall nad yw’n dod o fewn diffiniad o rostir neu ardal dan anfantais ddifrifol ac sydd wedi ei nodi felly ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

3

Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20065 (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys i ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro fel pe bai’n ddyfarniad perthnasol.

Rebecca EvansY Diprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru