2014 Rhif 2178 (Cy. 212)
Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014 a daw i rym ar 4 Medi 2014.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “cydardal” (“collective area”) yw holl ardal ddaearyddol yr awdurdodau trafnidiaeth lleol sy’n ymuno â’i gilydd i lunio cynllun trafnidiaeth lleol;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
Addasu’r rhwymedigaeth i lunio cynlluniau trafnidiaeth lleol o dan adran 108 o Ddeddf 20003
1
Mae’r ffordd y caiff adran 108 o Ddeddf 2000 ei chymhwyso o ran paratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol gan awdurdodau trafnidiaeth lleol wedi ei addasu yn unol â pharagraff (2).
2
Caiff awdurdod trafnidiaeth lleol—
a
paratoi cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer rhan o’i ardal yn unig;
b
ar y cyd ag un neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol, baratoi cynllun trafnidiaeth lleol o ran ardal sy’n cynnwys eu cydardal i gyd neu unrhyw ran neu rannau ohoni.
Dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 20064
Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 20063 drwy hyn wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)