Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Diwygio Rheoliadau 2010

5.—(1Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn lle paragraff 1(2)(a) o Atodlen 1 (esemptiadau) rhodder—

(a)cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan ymarferydd meddygol cofrestredig, deintydd, rhagnodydd atodol, nyrs-ragnodydd annibynnol, nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol neu broffesiynolyn iechyd yr AEE;.

(3Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

mae i “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;;

mae i “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;.