Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/12/2018.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (4) i (6), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.
(4) At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Medi 2014—
(a)rheoliad 4;
(b)rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath;
(c)rheoliad 14 i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 7;
(d)Atodlen 2;
(e)Rhan 1 o Atodlen 5; ac
(f)Rhan 1 o Atodlen 7.
(5) At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2016—
(a)Rhan 3 o Atodlen 5; a
(b)rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath.
(6) At ddibenion Rhan 2 o Atodlen 6, a rheoliad 13 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o Atodlen 6, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2018.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “a gynigir i’w werthu” yr un ystyr a roddir i “offered for sale” yn Erthygl 44 ac mae “cynnig gwerthu” (“offers for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) ac mae “arlwywyr mawr” (“mass caterers”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “awdurdod bwyd” (“foodauthority”) yw—
cyngor sir;
cyngor bwrdeistref sirol;
mae i “bwyd wedi ei ragbecynnu” yr ystyr a roddir i “prepacked food” yn Erthygl 2(2)(e);
ystyr “Cyfarwyddeb 1999/2/EC” (“Directive 1999/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio(1);
mae i “cyfrwng cyfathrebu o hirbell” yr ystyr a roddir i “means of distance communication” yn Erthygl 2(2)(u);
mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;
mae i “gweithredwr busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
mae i “parod i’w fwyta” yr un ystyr a roddir i “ready for consumption” yn Erthygl 2(2)(d); F1...
mae i “wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol” yr un ystyr a roddir i “prepacked for direct sale” yn Erthygl 2(2)(e).
[F2ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac]
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall—
(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at Erthygl yn FIC, a
(b)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad yn gyfeiriad at Atodiad i FIC.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at FIC, neu ddarpariaeth yn FIC (gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo) [F3neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014,] mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn a restrir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (20.7.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(2)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(2)(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 2(3) wedi eu mewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
3. Nid yw’r gofynion a nodir yn Erthyglau 9(1) a 10(1) yn gymwys i laeth na chynhyrchion llaeth a gynigir mewn potel wydr pan fwriedir i’r botel wydr gael ei hailddefnyddio.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
4.—(1) Nid yw’r gofynion a nodir ym mhwynt 1 o Ran B o Atodiad VI yn atal briwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion hyn rhag cael ei osod ar y farchnad gan ddefnyddio dynodiad briwgig os bydd y marc cenedlaethol yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymddangos ar y label.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys i ffurf y marc cenedlaethol.
(3) Ym mharagraff (1)—
mae i “ar y label” yr un ystyr ag sydd i “on the labelling” ym mhwynt 2 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda’r diffiniad o “labelling” yn Erthygl 2(2)(j);
mae “ei osod ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli fel pe bai’n cymryd i ystyriaeth ystyr “placing on their national market” fel y’i defnyddir ym mhwynt 3 o Ran B o Atodiad VI.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(a)
5.—(1) Caniateir i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi ar gael y manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) ynglŷn â’r bwyd hwnnw drwy unrhyw ddull y mae’r gweithredwr hwnnw’n ei ddewis, gan gynnwys ar lafar, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd perthnasol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell ac sydd—
(a)heb ei ragbecynnu,
(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu
(c)wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3) Pan fo gweithredwr busnes bwyd yn bwriadu rhoi’r manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) ynglŷn â bwyd perthnasol ar gael ar lafar, a bod sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn neu gymorth prosesu wrth weithgynhyrchu neu baratoi’r bwyd, rhaid i’r gweithredwr ddangos bod modd sicrhau manylion y sylwedd neu’r cynnyrch hwnnw drwy ofyn i aelod o’r staff.
(4) Rhaid i’r dangosiad a grybwyllir ym mharagraff (3) gael ei roi—
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar hysbysiad, bwydlen, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(5) O ran bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r manylion yn Erthygl 9(1)(c) a roddwyd ar gael gan weithredwr busnes bwyd gael eu rhoi ar gael â chyfeiriad clir at enw’r sylwedd neu’r cynnyrch a restrir yn Atodiad II—
(a)pan fo’r cynhwysyn neu’r cymorth prosesu perthnasol yn deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, a
(b)pan fo’r manylion yn cael eu rhoi ar gael ac eithrio drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn FIC.
(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd perthnasol” (“relevant food”) yw bwyd y mae cynhwysyn neu gymorth prosesu a restrir yn Atodiad II, neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, wedi eu defnyddio wrth ei weithgynhyrchu neu ei baratoi ac yn dal yn bresennol yn y cynnyrch gorffenedig (hyd yn oed os yw mewn ffurf a addaswyd).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
6.—(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd) fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(a)Erthygl 17(1) i (4), a
(b)yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—
(i)Erthygl 17(5) a phwynt 1 o Ran B o Atodiad VI, a
(ii)pwynt 3 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr ac sydd—
(a)heb ei ragbecynnu,
(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu
(c)wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.
(4) Rhaid i’r manylion ymddangos—
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
7.—(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(d) (swm cynhwysion penodol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 22 ac Atodiad VIII, o ran y cynhwysion yn y bwyd sy’n gig.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd (heblaw bwyd a bennir yn Atodlen 3) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr, sy’n cynnwys cig ac unrhyw gynhwysyn arall ac sydd—
(a)heb ei ragbecynnu,
(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu
(c)wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.
(4) Mae swm y cig sydd i’w bennu yn y manylion a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w bennu drwy gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynghylch cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII, gan gynnwys unrhyw addasiad tuag i lawr sy’n angenrheidiol mewn achos lle y mae cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y bwyd yn fwy na’r gwerthoedd a ddangosir yn y tabl yn y pwynt hwnnw.
(5) Rhaid i’r manylion ymddangos—
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe y mae’n ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol; ac
mae i “cig a wahenir yn fecanyddol” yr ystyr a roddir i “mechanically separated meat” ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
8.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad, mewn swmp, gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos, ynghyd ag enw’r cynnyrch, ar arddangosiad neu hysbysiad uwchben y cynhwysydd y gosodir y cynhyrchion ynddo ar y farchnad neu wrth ochr y cynhwysydd hwnnw.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys—
(a)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a
(b)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sy’n cynnwys cynhwysyn sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch hwnnw er mwyn dangos bod y cynnyrch wedi ei arbelydru.
(4) Mae paragraff (3) yn gymwys i gynnyrch a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr—
(a)sy’n cynnwys cynhwysyn cyfansawdd mewn achos lle y mae un o gynhwysion y cynhwysyn cyfansawdd hwnnw wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a
(b)y byddai, mewn perthynas â’r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw, ddarpariaethau pwynt 2 o Ran E o Atodiad VII (sy’n nodi achosion lle nad yw rhestr o gynhwysion ar gyfer cynhwysion cyfansawdd yn orfodol) yn gymwys, oni bai am y gofyniad ym mharagraff (3).
(5) Y dangosiad perthnasol yw’r geiriau “irradiated” neu’r geiriau “treated with ionising radiation”.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)cynnyrch a fu’n agored i ymbelydredd ïoneiddio a gynhyrchwyd gan ddyfeisiau mesur neu arolygu, ar yr amod nad yw’r dogn a amsugnwyd yn fwy na 0.01 Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy’n defnyddio niwtronau a 0.5 Gy mewn achosion eraill, ar lefel ynni ymbelydredd uchaf o 10 MeV yn achos pelydr X, 14 MeV yn achos niwtronau a 5 MeV mewn achosion eraill, neu
(b)cynnyrch a baratoir i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol.
(7) Yn y rheoliad hwn—
mae i “cynnyrch” yr un ystyr ag sydd i “product” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC;
mae “gosod ar y farchnad” i’w ddehongli drwy gymryd i ystyriaeth ystyr “placed on the market” fel y’i defnyddir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC;
mae i “mewn swmp” yr un ystyr ag sydd i “in bulk” yn ail is-baragraff Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC; ac
mae i “ymbelydredd ïoneiddio” yr un ystyr ag sydd i “ionising radiation” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
9. Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
10.—(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’n methu â chydymffurfio—
(a)ag unrhyw rai o ddarpariaethau FIC a bennir ym mharagraff (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)[F4;]
[F6(c)ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).]
(2) Y darpariaethau yn FIC yw—
(a)Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir hefyd gydag Atodiad II;
(b)Erthygl 21(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 18(1) ac Atodiad II;
(c)ail is-baragraff Erthygl 21(1), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 19(1) ac Atodiad II; a
(d)Erthygl 44(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthygl 9(1)(c) a rheoliad 5.
[F7(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—
(a)Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;
(b)Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.]
Diwygiadau Testunol
F4Rhl. 10(1)(a) wedi ei amnewid (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(3)(a)
F5Gair yn rhl. 10(1)(b) wedi ei amnewid (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(3)(b)
F6Rhl. 10(1)(c) wedi ei fewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(3)(c)
F7Rhl. 10(3) wedi ei fewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
11. Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 10 yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)
12.—(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn—
(a)galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn—
(i)darpariaeth yn FIC [F8neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;
(ii)rheoliad 5(3), (4) neu (5);
(iii)rheoliad 6(1) neu (4);
(iv)rheoliad 7(1), (4) neu (5); neu
(v)rheoliad 8(1) neu (3); a
(b)peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae is-adrannau (1) i (8) o adran 32(3) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd—
(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC [F9neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;
(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac
(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.
(3) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(6) Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn rhl. 12(1)(a)(i) wedi eu mewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(4)(a)
F9Geiriau yn rhl. 12(2)(a) wedi eu mewnosod (20.7.2016) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/664), rhlau. 1(3), 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym ar 19.9.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(4)(b)
I13A. 12 mewn grym ar 13.12.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(3)
I14A. 12 mewn grym ar 13.12.2016 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(5)(b)
13. Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 13 mewn grym ar 13.12.2016 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(3)
I16A. 13 mewn grym ar 13.12.2018 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(6)
14. Mae Atodlen 7 yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 14 mewn grym ar 19.9.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(4)(c)
I18A. 14 mewn grym ar 13.12.2014 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(3)
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2014
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: