2014 No. 2303 (Cy. 227)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) i (6)
Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/20042 mewn darpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972—
(a)
o ran mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod)3;
(b)
o ran y polisi amaethyddol cyffredin4.
I’r graddau y gwneir y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 19905, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)6 o’r Ddeddf honno.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7 wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y canlynol—
- (a)
- (b)
i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 13 a 14 ac Atodlenni 6 a 7—
- (i)
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi;
- (ii)
- (iii)adrannau 4(1), (2), (3), (4) ac (8) a 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 200911; ac
- (i)
- (c)
i’r graddau y mae’n ymwneud â gweddill y rheoliadau a’r Atodlenni, adrannau 6(4), 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.