ATODLEN 7Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

RHAN 2Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014

Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996

16.  Yn rheoliad 4 (eithriadau ar gyfer mathau penodol o werthu ac unedau gwerthu)—

(a)yn is-baragraff (e), yn lle “edible ice” rhodder “ice cream”; a

(b)yn is-baragraff (g)—

(i)yn lle “an indication of minimum durability” rhodder “the date of minimum durability”; a

(ii)yn lle “the Food Labelling Regulations require” rhodder “Regulation (EU) No 1169/2011 requires”.