xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cymhwyso darpariaethau’r DdeddfLL+C

12.—(1Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn—

(a)galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)darpariaeth yn FIC [F1neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;

(ii)rheoliad 5(3), (4) neu (5);

[F2(iia)rheoliad 5A(1);]

(iii)rheoliad 6(1) neu (4);

[F3(iiia)rheoliad 6A(1) neu (3);]

(iv)rheoliad 7(1), (4) neu (5); neu

(v)rheoliad 8(1) neu (3); a

(b)peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2Mae is-adrannau (1) i (8) o adran 32(1) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC [F4neu Reoliad 828/2014] a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 mewn grym ar 19.9.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(4)(b)

I2A. 12 mewn grym ar 13.12.2014 at ddibenion penodedig, gweler a. 1(3)

I3A. 12 mewn grym ar 13.12.2016 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler a. 1(5)(b)

(1)

Diwygiwyd is-adrannau (5) a (6) o adran 32 gan baragraff 18 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16).