Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “a gynigir i’w werthu” yr un ystyr a roddir i “offered for sale” yn Erthygl 44 ac mae “cynnig gwerthu” (“offers for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) ac mae “arlwywyr mawr” (“mass caterers”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “awdurdod bwyd” (“foodauthority”) yw—
(b)
cyngor bwrdeistref sirol;
mae i “bwyd wedi ei ragbecynnu” yr ystyr a roddir i “prepacked food” yn Erthygl 2(2)(e);
ystyr “Cyfarwyddeb 1999/2/EC” (“Directive 1999/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio();
mae i “cyfrwng cyfathrebu o hirbell” yr ystyr a roddir i “means of distance communication” yn Erthygl 2(2)(u);
mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;
mae i “gweithredwr busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
mae i “parod i’w fwyta” yr un ystyr a roddir i “ready for consumption” yn Erthygl 2(2)(d); ac
mae i “wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol” yr un ystyr a roddir i “prepacked for direct sale” yn Erthygl 2(2)(e).
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall—
(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at Erthygl yn FIC, a
(b)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad yn gyfeiriad at Atodiad i FIC.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at FIC, neu ddarpariaeth yn FIC (gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo) mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn a restrir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.