Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi6.

(1)

Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd) fel y’i darllenir gyda’r canlynol—

(a)

Erthygl 17(1) i (4), a

(b)

yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—

(i)

Erthygl 17(5) a phwynt 1 o Ran B o Atodiad VI, a

(ii)

pwynt 3 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.

(2)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr ac sydd—

(a)

heb ei ragbecynnu,

(b)

wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)

wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3)

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.

(4)

Rhaid i’r manylion ymddangos—

(a)

ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)

ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5)

Nid yw paragraff (4) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.