6.—(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd) fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(a)Erthygl 17(1) i (4), a
(b)yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—
(i)Erthygl 17(5) a phwynt 1 o Ran B o Atodiad VI, a
(ii)pwynt 3 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr ac sydd—
(a)heb ei ragbecynnu, [F1neu]
(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr[F2.]
F3(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.
(4) Rhaid i’r manylion ymddangos—
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 6(2)(a) wedi ei fewnosod (1.10.2021) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F2Rhl. 6(2)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (1.10.2021) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
F3Rhl. 6(2)(c) wedi ei hepgor (1.10.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)