Bwydydd a arbelydrwydLL+C

8.—(1Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad, mewn swmp, gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos, ynghyd ag enw’r cynnyrch, ar arddangosiad neu hysbysiad uwchben y cynhwysydd y gosodir y cynhyrchion ynddo ar y farchnad neu wrth ochr y cynhwysydd hwnnw.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys—

(a)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)i gynnyrch a fwriedir i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr sy’n cynnwys cynhwysyn sydd wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio.

(3Rhaid i unrhyw berson sy’n gosod ar y farchnad gynnyrch y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y dangosiad perthnasol yn ymddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch hwnnw er mwyn dangos bod y cynnyrch wedi ei arbelydru.

(4Mae paragraff (3) yn gymwys i gynnyrch a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol neu arlwywyr mawr—

(a)sy’n cynnwys cynhwysyn cyfansawdd mewn achos lle y mae un o gynhwysion y cynhwysyn cyfansawdd hwnnw wedi ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a

(b)y byddai, mewn perthynas â’r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw, ddarpariaethau pwynt 2 o Ran E o Atodiad VII (sy’n nodi achosion lle nad yw rhestr o gynhwysion ar gyfer cynhwysion cyfansawdd yn orfodol) yn gymwys, oni bai am y gofyniad ym mharagraff (3).

(5Y dangosiad perthnasol yw’r geiriau “irradiated” neu’r geiriau “treated with ionising radiation”.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cynnyrch a fu’n agored i ymbelydredd ïoneiddio a gynhyrchwyd gan ddyfeisiau mesur neu arolygu, ar yr amod nad yw’r dogn a amsugnwyd yn fwy na 0.01 Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy’n defnyddio niwtronau a 0.5 Gy mewn achosion eraill, ar lefel ynni ymbelydredd uchaf o 10 MeV yn achos pelydr X, 14 MeV yn achos niwtronau a 5 MeV mewn achosion eraill, neu

(b)cynnyrch a baratoir i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd o dan oruchwyliaeth feddygol.

(7Yn y rheoliad hwn—

mae i “cynnyrch” yr un ystyr ag sydd i “product” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae “gosod ar y farchnad” i’w ddehongli drwy gymryd i ystyriaeth ystyr “placed on the market” fel y’i defnyddir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC;

mae i “mewn swmp” yr un ystyr ag sydd i “in bulk” yn ail is-baragraff Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC; ac

mae i “ymbelydredd ïoneiddio” yr un ystyr ag sydd i “ionising radiation” yng Nghyfarwyddeb 1999/2/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)