NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bersonau o dramor a fydd yn gymwys neu’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“y Ddeddf”) a chymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (3) o’r Ddeddf”, ni chaiff awdurdod tai lleol ddyrannu llety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf” i bersonau o dramor sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)) oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Yn yr un modd, mae adran 185(2) o’r Ddeddf” yn darparu nad yw personau o’r fath yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf” oni bai eu bod o ddosbarth a ragnodir felly gan Weinidogion Cymru, neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Yn rhinwedd adran 160A(1) a (5) o’r Ddeddf”, caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthiadau eraill o bersonau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Yn yr un modd, mae adran 185(3) o’r Ddeddf” yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, neu’r Ysgrifennydd Gwladol, wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o’r Ddeddf”, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Yn rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau hynny o berson sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno.

Yn rheoliadau 4 a 6 o’r Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarthiadau o berson sydd i’w trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn y drefn honno, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Mae rheoliad 7 yn dirymu’r darpariaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn eu disodli, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau am ddyraniad o lety tai neu gymorth tai a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.