Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
2014 Rhif 2692 (Cy. 267)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 60, 61 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: