xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
29 Medi 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Hydref 2014
Yn dod i rym
7 Tachwedd 2014
1990 p. 8; y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60, 61 a 333, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac Atodlen 3 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2).