xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Datblygiad rhagnodedig – caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu

2.  At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o’r Ddeddf (digolledu pan gaiff gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol ei dynnu’n ôl), mae datblygiad o’r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—

(a)datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd)(1);

(b)datblygiad a ganiateir gan Ddosbarthiadau A ac E o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws a chodi neu adeiladu storfa sbwriel neu feiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws)(2);

(c)Dosbarth A o Ran 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru))(3) i’r graddau y mae paragraff A.2(4A) yn datgymhwyso’r amodau ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A ac yn cymhwyso’r amodau ym mharagraff A.2(4B) o Ddosbarth A;

(d)datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai)(4);

(e)datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig)(5);

(f)datblygiad a ganiateir gan Ran 41 o Atodlen 2 (swyddfeydd)(6);

(g)datblygiad a ganiateir gan Ran 42 o Atodlen 2 (siopau, sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol)(7); a

(h)datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig)(8).

(1)

Amnewidiwyd Rhan 1 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2013/1776 (Cy. 177).

(2)

Amnewidiwyd Rhan 8 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

(3)

Amnewidiwyd Rhan 24 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2002/1878 (Cy. 187) a’i diwygio gan O.S. 2003/2155 ac O.S. 2014/2692 (W.267).

(4)

Amnewidiwyd Rhan 32 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

(5)

Amnewidiwyd Rhan 40 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2012/1346 (Cy.167).

(6)

Mewnosodwyd Rhan 41 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

(7)

Mewnosodwyd Rhan 42 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

(8)

Mewnosodwyd Rhan 43 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2012/2318 (Cy. 252).