3. At ddibenion adran 108(3C)(b) o’r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu’n ôl ganiatâd cynllunio yw—
(a)drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4(1), 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995; neu
(b)drwy ddarparu mewn gorchymyn datblygu fod caniatâd cynllunio—
(i)am gyfnod cyfyngedig; neu
(ii)yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
Diwygiwyd erthygl 4 gan O.S. 1996/528, O.S. 2006/124 (Cy. 17), O.S. 2006/1386 (Cy. 136) ac O.S. 2013/1776 (Cy. 177).