xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
14 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Hydref 2014
Yn dod i rym
12 Tachwedd 2014
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
2.—(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 88E(3) o Ddeddf 1990.
(2) Ym mharagraff (1)—
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac
ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—
o ran atgyfeiriadau o dan adran 12(4) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod cynllunio lleol;
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 88E a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 88E yn Neddf 1990.
Mae adran 88E o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 ac apelau o dan adrannau 20 a 39 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.
Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1990 p. 9. Mewnosodwyd adran 88E o Ddeddf 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, O.S. 2014/2773 (Cy.280).
Mae diwygiadau i adran 93 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Mae diwygiadau i adran 12 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 20 o Ddeddf 1990 gan adran 43(4)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae diwygiad arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 39 o Ddeddf 1990 gan adran 25 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, a pharagraff 3(2), (3) a (4) o Atodlen 3 iddi; ac erthygl 7 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Rhif 1) 2004, O.S. 2004/3156. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.