Cyfnod rhagnodedig
2.—(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 88E(3) o Ddeddf 1990.
(2) Ym mharagraff (1)—
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac
ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—
(a)
o ran atgyfeiriadau o dan adran 12() o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod cynllunio lleol;
(b)
o ran apêl o dan adran 20() o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl, ynghyd â’r dogfennau a bennir yn rheoliad 12(2) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(); ac
(c)
o ran apêl o dan adran 39() o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl a’r datganiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003().