RHAN 5CYFRANIADAU
Cymhwyso cyfraniad y myfyriwrI128
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys—
a
yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(3);
b
yn ail—
i
yn achos myfyriwr sy’n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
aa
swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 23;
bb
swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 23; ac
cc
swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
ii
mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
c
yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(5);
d
yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(6).
2
Os yw’r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 15(6), swm y grant hwnnw sy’n daladwy i’r myfyriwr yw dim.