Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014
2014 Rhif 3079 (Cy. 304)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd2 ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin3, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)4, 17(2)5, 26(1)(a) a (3)6 a 48(1)7 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19908, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19729.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno10.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
(a)
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin11;
(b)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin12; ac
(c)
Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/200013.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd14, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.