- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hyn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5), fel y’u diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 2006”). Mae’r Rheoliadau’n gwneud darpariaeth ynghylch llaeth crai, ac felly’n ymwneud â’r gofynion y darperir ar eu cyfer gan Adran IX o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L 139, 30.04.2004, t 55).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 6 i Reoliadau 2006 er mwyn darparu ar gyfer parhau mewn grym, yng Nghymru, y gofyniad fod cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo wedi ei farcio neu ei labelu gyda rhybudd iechyd. Lle y mae llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu yn cael ei werthu mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r rhybudd iechyd ymddangos ar label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd neu ar docyn neu hysbysiad y gellir ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw. Caniateir defnyddio ieithoedd ychwanegol at y Saesneg ar y marc neu’r label.
Darperir ar gyfer y gofyniad rhybudd iechyd presennol gan reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499, fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1996”). Bydd rheoliad 31 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddirymu ar 13 Rhagfyr 2014 gan reoliad 13 o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)) a Rhan 1 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu fod unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i’r gofynion rhybudd iechyd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen llunio asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: