Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3088 (Cy. 309) (C. 131)

Gwarchod Natur, Cymru

Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn a Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2014

Gwnaed

18 Tachwedd 2014

Yn dod i rym

12 Rhagfyr 2014

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn a Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Rhagfyr 2014.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru.

(4Yn y Gorchymyn hwn mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” gan adran 322(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Diwrnod penodedig

2.  12 Rhagfyr 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009—

(a)adrannau 116 i 128 (dynodi parthau cadwraeth morol; dyletswyddau sy’n ymwneud â rhwydwaith cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus);

(b)adrannau 134 i 148 (gorchmynion ar gyfer gwarchod parthau cadwraeth morol yng Nghymru; gwrandawiadau; troseddau; cosbau ariannol penodedig; darpariaethau amrywiol ac atodol; a safleoedd cadwraeth eraill) ac Atodlenni 10 (darpariaethau pellach ynghylch cosbau ariannol penodedig o dan adran 142), 11 (diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol), 12 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol) a 13 (ffiniau morol safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gwarchodfeydd natur cenedlaethol); ac

(c)Rhan 3 (gwarchod natur) o Atodlen 22 (diddymiadau) ac adran 321 (diddymiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.

Dirymu’r deddfiad presennol

3.  Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Is-ddeddfau ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Morol) 1986(2) wedi eu dirymu.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf 2009 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol yng Nghymru (adrannau 116 i 128 a 134 i 147) a Phennod 2 o’r Rhan honno sy’n ymwneud â safleoedd cadwraeth eraill (adran 148). Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yr Atodlenni cysylltiedig i Ran 5 o Ddeddf 2009 gan gynnwys diwygiadau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a diddymiadau.

Mae erthygl 3 yn dirymu is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhan 5 o Ddeddf 2009.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 i rym yng Nghymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 3, Atodlenni 1 a 212 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adrannau 4 i 81 Ebrill 20102010/907 (C. 61)
Adrannau 9 i 131 Ebrill 20102010/298 (C. 23)
Adrannau 14 i 2212 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 231 Ebrill 20102010/298 (C. 298)
Adran 2412 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 251 Ebrill 20102010/298 (C. 23)
Adrannau 26 i 2812 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adrannau 29 i 301 Ebrill 20102010/298 (C. 23)
Adrannau 31 i 40, Atodlen 312 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adrannau 42 i 4312 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Rhan 1 o Atodlen 431 Mawrth 20142013/3055 (C. 127)
Rhan 2 o Atodlen 412 Ionawr 2010 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2009/3345 (C. 153)
Adran 4131 Mawrth 20142013/3055 (C. 127)
Adrannau 65 i 111, Atodlen 76 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1121 Ebrill 2010 (at ddibenion penodedig)2010/298 (C. 23)
6 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2011/556 (C. 19)
Adrannau 113 i 1156 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Atodlen 81 Ebrill 2010 (paragraffau penodedig)2010/298 (C. 23)
6 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2011/556 (C. 19)
Atodlen 96 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1501 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1511 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adrannau 153 i 1641 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1651 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adrannau 166 i 1731 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1741 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1751 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 176(1)1 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 176(2)1 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1771 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1781 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1791 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1801 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1811 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1821 Hydref 20102010/2195 (C. 110)
Adran 1831 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1841 Hydref 2010 (at ddibenion penodedig)2010/2195 (C. 110)
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2011/556 (C. 19)
Atodlen 141 Hydref 2010 (paragraffau penodedig)2010/2195 (C. 110)
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2011/556 (C. 19)
Adran 1851 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 1861 Hydref 2010 (at ddibenion penodedig)2010/2195 (C. 110)
1 Ebrill 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2011/556 (C. 19)
Adran 1871 Ebrill 20102010/630 (C. 42)
Adrannau 194 i 21612 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Atodlen 1512 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 21712 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2009/3345 (C. 153)
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2010/298 (C. 23)
Adrannau 218 i 2191 Ionawr 20112010/298 (C. 23)
Adrannau 220 i 22212 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 22312 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2009/3345 (C. 153)
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2010/298 (C. 23)
Adrannau 224 i 23212 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 233(1)12 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2009/3345 (C. 153)
1 Ionawr 2011(i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2010/298 (C. 23)
Adran 233(2)12 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Atodlen 1612 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2009/3345 (C. 153)
1 Ionawr 2011 (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn)2010/298 (C. 23)
Adran 2341 Ebrill 20102010/298 (C. 23)
Adran 23512 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 2366 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adrannau 237 i 23912 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adrannau 240 i 2426 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adrannau 243 i 262, Atodlen 1712 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 2636 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adrannau 264 i 295, Atodlen 1812 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adrannau 311 i 31312 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 3146 Ebrill 20112011/556 (C. 19)
Adran 315, Atodlen 2112 Ionawr 20102009/3345 (C. 153)
Adran 321, Atodlen 2212 Ionawr 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2009/3345 (C. 153)
1 Ebrill 2010 (darpariaethau penodedig ac at ddibenion penodedig)2010/298 (C. 23)
1 Ionawr 2011 (at ddibenion penodedig)2010/298 (C. 23)
1 Ebrill 2010 (at ddibenion penodedig)2010/630 (C. 42)
1 Ebrill 2011 (at ddibenion penodedig)2011/556 (C. 19)
6 Ebrill 2011(at ddibenion penodedig)2011/556 (C. 19)