Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3111 (Cy. 311)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014

Gwnaed

18 Tachwedd 2014

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012(1).

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.