Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3155 (Cy. 317) (C. 137)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr

Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014

Gwnaed

2 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 49(3)(e) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: