xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1073 (Cy. 111)) lle nodir y cynllun digolledu ar gyfer diffoddwyr tân a phobl sy’n ddibynnol ar ddiffoddwyr tân yng Nghymru (“y Cynllun Digolledu”).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn a pharagraffau 6 a 7 o’r Atodlen iddo – maent yn darparu bod y Cynllun Digolledu, ar ei ffurf anniwygiedig, i barhau i fod yn gymwys mewn rhai amgylchiadau penodol.
Mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i reol 2 (dyfarndaliad ar gyfer neu mewn perthynas â diffoddwr tân wrth gefn neu wirfoddol) o Ran 8 (achosion arbennig) yn dileu, o 1 Ebrill 2014 ymlaen, hawl diffoddwr tân wrth gefn a oedd yn cael ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006 i ddyfarndaliad anaf wedi ei gyfrifo fel petai’n ddiffoddwr tân llawn amser. Mae’r newidiadau hyn yn ganlyniad i newidiadau i drefniadau pensiwn ar gyfer diffoddwyr tân wrth gefn sydd wedi eu gwneud gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/3254 (Cy. 330)).
Mae’r diwygiadau i reol 6 (cyfrif gwasanaeth at ddiben dyfarndalu) a rheol 7 (anaf cymwys) o Ran 1 (darpariaethau cyffredinol) a’r rhai i reol 4 o Ran 10 yn ganlyniad i’r diwygiadau i reol 2.
Mae’r amrywiol ddiwygiadau sy’n rhoi “regular or retained firefighters” yn lle cyfeiriad at “regular firefighter” yn cywiro telerau cyffredinol y Cynllun Digolledu y bwriadwyd iddynt fod yn gymwys i ddiffoddwyr tân wrth gefn a ddechreuodd gael eu cyflogi fel diffoddwyr tân wrth gefn ar ôl 5 Ebrill 2006. Effaith y diwygiadau sydd wedi eu gwneud i reol 2 o Ran 8 gan y Gorchymyn hwn yw bod darpariaethau cyffredinol y Cynllun Digolledu yn gymwys i bob diffoddwr tân wrth gefn nad yw’n dod o fewn y darpariaethau trosiannol.
Mae’r diwygiadau i Ran 1 (pensiwn arbennig) o Atodlen 2 (dyfarndaliadau ar gyfer priodau a phartneriaid sifil), Rhan 1 (lwfans arbennig plentyn) o Atodlen 3 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: plant) a Rhan 1 (pensiwn arbennig perthynas dibynnol sy’n oedolyn) o Atodlen 4 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: darpariaethau ychwanegol) yn mewnosod fformiwla i gyfrifo dyfarndaliad mewn cysylltiad â diffoddwyr tân wrth gefn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gellir cael copïau o’r asesiad hwn oddi wrth: Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 03000628219).