RHAN 2Gofyniad i ddal trwydded
Trwyddedu bridwyr cŵn
4. Mae bridio cŵn yn weithgaredd penodedig, at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf.
Bridio cŵn: dehongli
5.—(1) Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac—
(a)yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(b)yn hysbysebu ar werth o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c)yn cyflenwi o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;
(d)yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.
(2) At ddibenion paragraff (1) rhagdybir bod unrhyw gi a ganfyddir mewn mangre yn cael ei gadw gan feddiannydd y fangre honno nes profir i’r gwrthwyneb.
(3) At ddibenion paragraffau (1)(a) i (c) nid yw’n berthnasol a yw’r torllwythi o gŵn bach wedi eu bridio o’r geist bridio y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), ai peidio.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.
Bridio cŵn: eithrio
6.—(1) Nid yw person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’r cŵn a grybwyllwyd yn rheoliad 5 yn cael eu bridio—
(a)i’w defnyddio mewn gweithdrefnau a reoleiddir, a
(b)mewn lle a bennir mewn trwydded adran 2C yn rhinwedd adran 2B(2)(b) o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
(2) Ym mharagraff (1) mae i “gweithdrefn a reoleiddir” a “trwydded adran 2C” yr ystyr a roddir i “regulated procedure” a “section 2C licence” gan adran 30 o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.