YR ATODLENNI

ATODLEN 1

Rheoliad 8(2)

RHAN 1Amodau Trwydded

Amod 1: Gwella a Chyfoethogi1

Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen wella a chyfoethogi a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.

Amod 2: Cymdeithasoli2

Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen gymdeithasoli a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.

Amod 3: Iechyd3

Rhaid i’r deiliad trwydded gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu cŵn rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd.

Amod 4: Paru4

Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau nad yw gast fridio—

a

yn cael ei pharu cyn ei bod yn 12 mis oed;

b

yn rhoi genedigaeth i fwy nag un torllwyth o gŵn bach o fewn cyfnod o 12 mis; nac

c

yn rhoi genedigaeth i gyfanswm o fwy na 6 torllwyth o gŵn bach.

Amod 5: Newid perchnogaeth ci bach5

Rhaid i’r deiliad trwydded barhau’n berchennog ac yn feddiannwr unrhyw gi bach yn y fangre a feddiannir gan y deiliad trwydded hyd nes bo’r ci bach yn 56 diwrnod oed, o leiaf.

Amod 6: Gofynion cofnodi geist bridio6

1

Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig mewn perthynas â phob gast fridio a gedwir, gan nodi—

a

ei henw;

b

ei dyddiad geni;

c

ei brid;

d

disgrifiad ffisegol ohoni, gan gynnwys ei lliw a’i nodweddion adnabod;

e

ei statws iechyd;

f

manylion paru, gan gynnwys;

i

mewn perthynas â’r tad, yr wybodaeth y mae is-baragraff 1(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol;

ii

mewn perthynas â phob ci bach a anwyd—

aa

dyddiad geni;

bb

pa bryd y trosglwyddwyd perchenogaeth, ac enw a chyfeiriad y perchennog newydd.

2

Pan drosglwyddir perchenogaeth gast fridio, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) a rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd a chadw copi ohono ei hunan.

3

Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i’w archwilio a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo drwy gydol oes yr ast fridio.

Amod 7: Gofynion cofnodi cŵn bach7

1

Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig sy’n cadarnhau’r manylion canlynol mewn perthynas â phob ci bach sydd yn y fangre a feddiannir gan y deiliad trwydded:

a

rhyw;

b

dyddiad geni;

c

brid;

d

disgrifiad ffisegol gan gynnwys lliw a nodweddion adnabod;

e

statws iechyd;

f

mewn perthynas â’r fam, yr wybodaeth y mae amod 6(1)(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol; a

g

mewn perthynas â’r tad, yr wybodaeth y mae amod 6(1)(a) i (e) yn ei gwneud yn ofynnol.

2

Pan drosglwyddir perchenogaeth ci bach, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif teleffon y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) a rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd a chadw copi ohono ei hunan.

3

Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i’w archwilio gan yr awdurdod lleol ar unrhyw adeg, a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo am 3 blynedd ar ôl geni’r ci bach.

ATODLEN 2Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliad 26

Deddf Bridio Cŵn 19731

Yn adran 5 o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 (dehongli), yn is-adran (2), yn y diffiniad o “local authority”, hepgorer “and in Wales the council of a county or county borough”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 19942

Yn Atodlen 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (diwygiadau canlyniadol eraill), hepgorer paragraff 42.

Deddf Cŵn Gwarchod 19753

Yn adran 3 o Ddeddf Cŵn Gwarchod 1975 (trwyddedau cwbiau cŵn gwarchod), o flaen is-adran (6), mewnosoder—

5B

Where a person is convicted of an offence under section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006 arising from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales, or of an offence under the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2014, subsections (4) and (5) apply as they do to convictions under this Act

Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 19764

Ar ddiwedd adran 6 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (cosbau) mewnosoder—

3B

Where a person is convicted of an offence under section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006 arising from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales, or of an offence under the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2014, subsections (2) and (3) apply as they do to convictions under this Act

Deddf Trwyddedu Sŵau 19815

Yn adran 4 o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (rhoi neu wrthod trwydded), yn is-adran (5), mewnosoder ar y diwedd—

  • “section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006, so far as the offence arises from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales;

  • the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2014.