Absenoldeb ceisydd mewn gwrandawiad8

Os yw’r ceisydd yn methu â mynd i’r gwrandawiad, caiff y person sy’n cynnal y gwrandawiad, gan roi sylw i’r holl amgylchiadau (gan gynnwys unrhyw esboniad a gynigir am yr absenoldeb), barhau â’r gwrandawiad neu roi’r cyfryw gyfarwyddydau o ran bwrw ymlaen ymhellach â’r adolygiad sy’n briodol yn ei farn ef.