NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli cadw a chyflwyno pysgod mewn dyfroedd mewndirol. Maent yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu ei bod yn drosedd cyflwyno unrhyw bysgod i ddyfroedd mewndirol, cadw mathau penodol o bysgod (y pysgod sy’n perthyn i’r urdd dacsonomaidd a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ond nad ydynt yn rhywogaeth a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen) mewn dyfroedd mewndirol, neu i gadw unrhyw fath o bysgod mewn ardaloedd gwarchodedig lle na fyddai’r pysgod hynny yno fel arall, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (“y Corff”) (rheoliadau 4 a 5). Caiff y Corff atodi amodau i drwyddedau i gyflwyno pysgod neu i gadw pysgod ac mae rhestr o ddibenion y caniateir gosod amodau yn benodol mewn perthynas â hwy, neu o faterion y caniateir gosod amodau yn benodol mewn perthynas â hwy, wedi ei chynnwys yn rheoliad 6(4).

Mae rheoliad 3 yn eithrio busnesau cynhyrchu dyframaethol rhag cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys cludo pysgod rhwng mangreoedd un neu ragor o fusnesau cynhyrchu dyframaethol. Fodd bynnag, nid yw’n eithrio busnesau cynhyrchu dyframaethol rhag y gofyniad i gael trwydded i gadw (heblaw am yn y fangre) pysgod neu i gyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.

Mae rheoliad 7 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff y Corff ddirymu, atal dros dro neu amrywio trwydded.

Mae rheoliad 8 yn galluogi’r Corff i gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd dyfroedd mewndirol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw symud ymaith a gwaredu pysgod, os yw’r pysgod wedi eu cyflwyno i’r dŵr neu eu cadw yn groes i’r Rheoliadau. Mae paragraff (3) yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff y Corff symud a gwaredu pysgod heb gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1). Mae paragraff (5) yn ei gwneud yn drosedd i beidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (1) heb esgus rhesymol.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr adeg y mae hysbysiad o dan reoliad 7 neu 8 yn cael effaith.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelau gan geisydd trwydded, neu ddeiliad trwydded neu berchennog neu feddiannydd dyfroedd mewndirol, sy’n cael hysbysiad o dan reoliad 7 neu 8.

Mae rheoliad 11 yn rhoi pŵer mynediad i swyddog awdurdodedig y Corff at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 12 yn nodi pwerau ychwanegol swyddog awdurdodedig, gan gynnwys y pŵer i stopio a chadw’n gaeth unrhyw gerbyd, a’r pŵer i gynnal unrhyw chwiliad. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer troseddau penodol sy’n ymwneud â rhwystro person sy’n gweithredu i roi’r Rheoliadau ar waith.

Mae rheoliad 14 yn nodi bod person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na £50,000, neu ei gollfarnu ar dditiad i ddirwy heb derfyn. Fodd bynnag, os yw adran 85(2) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 mewn grym ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau hyn, ni fydd dirwy a osodir ar gollfarn ddiannod mewn llys barn yng Nghymru wedi ei chyfyngu i £50,000.

Mae Rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol. Effaith paragraff (1) yw, mewn amgylchiadau penodol, y caiff cyfarwyddwr neu berson tebyg arall o gorff corfforaethol fod yn atebol yn bersonol am drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a gyflawnir (neu yr honnir eu bod wedi eu cyflawni) gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig.

Mae rheoliad 17 yn darparu bod trwydded sydd eisoes mewn grym o dan adran 1 o Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980 i gael ei hystyried yn drwydded o dan y Rheoliadau.

Mae rheoliad 18 yn diddymu adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 o ran Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.