RHAN 4GORFODI A GWEINYDDU

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig16

1

Caniateir dwyn achos o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei fod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

2

At ddibenion y cyfryw achosion—

a

mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

b

mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 19258 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 19809 yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

3

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas wrth eu collfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

4

Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y person hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd honno ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

5

Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r gymdeithas, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

6

Ym mharagraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.

7

Ym mharagraff (5), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o’r gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu, neu berson sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o’r fath.