- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
15.—(1) Cyn rhoi’r gymeradwyaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i swyddog ariannol cyfrifol corff perthnasol—
(a)mewn achos pan fo’r corff wedi paratoi datganiad o gyfrifon, llofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cyflwyno safbwynt gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno;
(b)mewn achos pan fo’r corff wedi paratoi cofnod o dderbyniadau a thaliadau, llofnodi a dyddio’r cofnod hwnnw ac ardystio ei fod yn cyflwyno’n briodol dderbyniadau a thaliadau’r corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn y mae’r cofnod yn berthnasol iddi; neu
(c)mewn unrhyw achos arall, llofnodi a dyddio’r cyfrif incwm a gwariant a’r datganiad o falansau, ac ardystio eu bod yn cyflwyno’n deg sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y maent yn berthnasol iddi ac incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i gorff perthnasol llai, ddim hwyrach na’r 30 Mehefin yn union ar ôl diwedd blwyddyn—
(a)ystyried y datganiadau cyfrifyddu gan gyfarfod llawn o’r holl aelodau;
(b)yn dilyn yr ystyriaeth honno, cymeradwyo’r datganiadau cyfrifyddu i’w cyflwyno i’r archwilydd drwy benderfyniad gan y corff; ac
(c)yn dilyn cymeradwyaeth, sicrhau bod y datganiadau cyfrifyddu’n cael eu llofnodi a’u dyddio gan y person sy’n llywyddu’r cyfarfod lle y rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.
(3) Os nad yw’r swyddog ariannol cyfrifol yn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i’r corff perthnasol llai—
(a)cyhoeddi datganiad ar unwaith yn nodi’r rhesymau dros fethiant y swyddog i gydymffurfio; a
(b)cytuno ar gwrs gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth cyn gynted ag y bo modd.
(4) Pan fo corff perthnasol llai yn penderfynu diwygio ei ddatganiadau cyfrifyddu ar ôl cael unrhyw adroddiad gan yr archwilydd sy’n cynnwys canfyddiadau terfynol yr archwilydd o’r archwiliad ac a ddyroddir cyn i’r archwiliad gael ei orffen, rhaid i’r corff sicrhau bod y datganiadau cyfrifyddu a ddiwygiwyd yn cael eu llofnodi a dyddio gan y person sy’n llywyddu’r cyfarfod lle y cymeradwywyd y diwygiad.
(5) Rhaid i gorff perthnasol llai, ddim hwyrach na’r 30 Medi yn y flwyddyn yn union ar ôl diwedd y flwyddyn y mae’r datganiad yn berthnasol iddi, naill ai—
(a)cyhoeddi’r datganiadau cyfrifyddu drwy gyfrwng heblaw drwy gyfeiriadau’n unig yn y cofnodion o gyfarfodydd, ynghyd ag—
(i)unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a ddyroddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2) a 33 o Ddeddf 2004, neu
(ii)os bydd y cyhoeddi’n digwydd cyn i’r archwiliad gael ei orffen ac na roddwyd unrhyw farn o’r fath, ynghyd â datganiad ac esboniad o’r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad cyhoeddi; neu
(b)arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y dogfennau a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 diwrnod o leiaf.
(6) Rhaid i gorff perthnasol llai gadw copïau o’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a) i’w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm rhesymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: