Byrddau draenio mewnol
19. Rhaid i fwrdd draenio mewnol godi ar gyfrif refeniw swm sy’n hafal i’r taliadau a’r cyfraniadau sy’n daladwy’n statudol am y flwyddyn honno o dan drefniant a gyfrifir fel cynllun pensiwn â buddion wedi eu diffinio neu fel buddion eraill hirdymor i gyflogeion (fel y’u diffiniwyd yn unol ag arferion priodol mewn perthynas â chyfrifon).