Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amod cymhwyso” (“qualifying condition”) yw nad yw incwm gros neu wariant gros y corff perthnasol (pa bynnag un sydd uchaf) yn fwy na £2,500,000;

ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw—

(a)

person y mae ei benodiad yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, Atodlen 3, paragraff 2(2)(1);

(b)

fel arall, Archwilydd Cyffredinol Cymru;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer dosbarth iechyd porthladd sydd yng Nghymru yn gyfan gwbl;

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw’r 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “bwrdd cadwraeth” (“conservation board”) yw bwrdd a sefydlir o dan adran 86 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(3);

ystyr “bwrdd draenio mewnol” (“internal drainage board”) yw bwrdd draenio mewnol ar gyfer dosbarth draenio mewnol sydd yng Nghymru yn gyfan gwbl;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw (fel y bo’n briodol) corff perthnasol mwy neu gorff perthnasol llai;

ystyr “corff perthnasol llai” (“smaller relevant body”) yw corff—

(a)

sy’n—

(i)

cyngor cymuned;

(ii)

pwyllgor i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgor);

(iii)

awdurdod iechyd porthladd;

(iv)

bwrdd draenio mewnol; neu

(v)

bwrdd cadwraeth; a

(b)

sy’n—

(i)

corff sefydledig, sy’n bodloni’r amod cymhwyso ar gyfer y flwyddyn dan sylw neu ar gyfer unrhyw un o’r ddwy flynedd flaenorol;

(ii)

corff sydd newydd ei sefydlu, sy’n bodloni’r amod cymhwyso ar gyfer ei flwyddyn gyntaf neu ail flwyddyn;

ystyr “corff perthnasol mwy” (“larger relevant body”) yw—

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)

awdurdod tân ac achub;

(c)

awdurdod Parc Cenedlaethol;

(d)

comisiynydd heddlu a throsedd;

(e)

prif gwnstabl; neu

(f)

corff a restrir yn y diffiniad o “corff perthnasol llai” yn y rheoliad hwn ond nad yw’n bodloni’r amod cymhwyso;

ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau lleol;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(5);

ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn unrhyw ddiwrnod arall sy’n ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6); ac

ystyr “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”) yw hysbyseb a gyhoeddir mewn un neu fwy o bapurau lleol sy’n cylchredeg yn ardal y corff perthnasol.

(2Ystyr unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “swyddog ariannol cyfrifol ” (“responsible financial officer”) yw—

(a)y person sy’n gyfrifol am weinyddu materion ariannol corff perthnasol yn rhinwedd—

(i)adran 151 o Ddeddf 1972 (gweinyddiaeth ariannol),

(ii)adran 112(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (gweinyddiaeth ariannol o ran awdurdodau penodol)(7), neu

(iii)paragraff 13(6) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (awdurdodau parciau cenedlaethol)(8),

neu, os nad oes unrhyw berson sy’n gyfrifol yn y modd hwn, y person sy’n gyfrifol am gadw cyfrifon corff o’r fath; neu

(b)os nad yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn alluog i weithredu oherwydd absenoldeb neu salwch—

(i)unrhyw aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (swyddogaethau swyddog cyfrifol o ran adroddiadau)(9); neu

(ii)os na wnaed enwebiad o’r fath o dan yr adran honno, unrhyw aelod o staff a enwebwyd gan y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(1)

2013 dccc 3. Mae paragraff 2(2) o Atodlen 3 (darllenwch gydag O.S. 2013/1466 (Cy. 138) (C. 56)) yn gwneud darpariaeth bod penodiad archwilydd, pan fo’r penodiad hwnnw, yn union cyn 1 Ebrill 2014, yn cael effaith o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i unrhyw derfyniad cynharach).

(7)

1988 p. 41; diwygiwyd adran 112 gan Ddeddf yr Heddlu 1997 (p. 50), Atodlen 6, paragraff 27; Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16), Atodlen 6, paragraff 45 a 47; Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), Atodlen 1, paragraff 68; Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20), Atodlen 6, paragraffau 74 a 78; a Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13), Atodlen 16, paragraffau 180 a 187.

(9)

1988 p. 41; diwygiwyd adran 114 gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), Atodlen 5, paragraff 66; Deddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p. 29), Atodlen 4, paragraff 34; Deddf yr Heddlu 1997 (p. 50), Atodlen 6, paragraff 28; Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2001 (p. 16), Atodlen 6, paragraffau 45 ac 48; O.S. 2002/808; Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13), Atodlen 16, paragraffau 180 a 188; a Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), Atodlen 25, Rhan 32.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources