xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
1 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mawrth 2014
Yn dod i rym
1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2);
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3); ac
ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(4).
3. Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
4. Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
5. Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007 yn lle “29 Ebrill 2013” rhodder “1 Ebrill 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog lechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1986/975) (“Rheoliadau 1986”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (1997/818) (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (2007/1104 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2007”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1986 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5) (“Deddf 2012”).
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1997 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2007 o ganlyniad i gyflwyno’r credyd cynhwysol gan Ddeddf 2012.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1986/975 fel y’i diwygiwyd.
O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.
O.S. 2007/1104 (Cy.116) fel y’i diwygiwyd.