Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 519 (Cy. 61)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

Gwnaed

5 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7 Mawrth 2014

Yn dod i rym

31 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964((3), wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad sydd yn y Rheoliadau hyn at Atodlen II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC(5) ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

(2)

1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(3)

1964 p.14. Diwygiwyd Adran 16 gan adran 4 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68); O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(5)

OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t.28, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2013/45/EU, OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20.