2014 Rhif 519 (Cy. 61)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(3, wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad sydd yn y Rheoliadau hyn at Atodlen II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC5 ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014.

2

Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2014.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20122

1

Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20126 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yng ngholofn 1 (Planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt) o Atodlen 1 (Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) ar gyfer “Lycopersicon esculentum Mill”, rhodder—

Solanum lycopersicum L.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 19953

1

Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 19957 wedi eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (Dehongli)—

a

Hepgorer y diffiniad o “Directive 92/33/EEC”;

b

Ar ôl y diffiniad o “Directive 93/61/EEC”, mewnosoder—

  • “Directive 2008/72/EC” means Council Directive 2008/72/EC on the marketing of vegetable propagating and planting material, other than seed;

3

Yn rheoliad 3(1) (Deunyddiau planhigion y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—

a

plant material of the genera and species set out in Annex II as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC and their hybrids; and

b

rootstocks and other parts of plants of other genera or species and their hybrids if plant material of a genus or species set out in Annex II, as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC or of a hybrid of such a genus or species is or is to be grafted on to them.

4

Yn rheoliad 5(d) (Gofynion ansawdd ar gyfer deunyddiau planhigion), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—

ii

it belongs to a variety officially accepted in a member State in accordance with Article 9 of Directive 2008/72/EC; and

Alun Daviesun o Weinidogion CymruY Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd,
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245 (Cy.39)) a Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652 (“y Rheoliadau Planhigion Llysieuol”) mewn perthynas â Chymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2013/45/EU (OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20) sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2002/55/EC (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.33), Cyfarwyddeb 2008/72/EC (OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t.28) a Chyfarwyddeb 2009/145/EC (OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t.44) o ran enw botanegol tomato i adlewyrchu adolygiadau i God Rhyngwladol y Gyfundrefn Enwi Fotanegol.

Diddymwyd Cyfarwyddeb 92/33/EEC (OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t.1) gan Gyfarwyddeb 2008/72/EC ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau. Diwygir y Rheoliadau Planhigion Llysieuol i adlewyrchu’r dirymiad hwn. Maent bellach yn gymwys i ddeunydd planhigion o’r genera a’r rhywogaethau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/72/EC fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.