Search Legislation

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 519 (Cy. 61)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

Gwnaed

5 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7 Mawrth 2014

Yn dod i rym

31 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964((3), wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad sydd yn y Rheoliadau hyn at Atodlen II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC(5) ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014.

(2Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2014.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn 1 (Planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt) o Atodlen 1 (Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) ar gyfer “Lycopersicon esculentum Mill”, rhodder—

Solanum lycopersicum L..

Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

3.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(7) wedi eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (Dehongli)—

(a)Hepgorer y diffiniad o “Directive 92/33/EEC”;

(b)Ar ôl y diffiniad o “Directive 93/61/EEC”, mewnosoder—

“Directive 2008/72/EC” means Council Directive 2008/72/EC on the marketing of vegetable propagating and planting material, other than seed;

(3Yn rheoliad 3(1) (Deunyddiau planhigion y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)plant material of the genera and species set out in Annex II as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC and their hybrids; and

(b)rootstocks and other parts of plants of other genera or species and their hybrids if plant material of a genus or species set out in Annex II, as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC or of a hybrid of such a genus or species is or is to be grafted on to them..

(4Yn rheoliad 5(d) (Gofynion ansawdd ar gyfer deunyddiau planhigion), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—

(ii)it belongs to a variety officially accepted in a member State in accordance with Article 9 of Directive 2008/72/EC; and.

Alun Davies

un o Weinidogion Cymru

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd,

5 Mawrth 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245 (Cy.39)) a Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652 (“y Rheoliadau Planhigion Llysieuol”) mewn perthynas â Chymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2013/45/EU (OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20) sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2002/55/EC (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.33), Cyfarwyddeb 2008/72/EC (OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t.28) a Chyfarwyddeb 2009/145/EC (OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t.44) o ran enw botanegol tomato i adlewyrchu adolygiadau i God Rhyngwladol y Gyfundrefn Enwi Fotanegol.

Diddymwyd Cyfarwyddeb 92/33/EEC (OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t.1) gan Gyfarwyddeb 2008/72/EC ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau. Diwygir y Rheoliadau Planhigion Llysieuol i adlewyrchu’r dirymiad hwn. Maent bellach yn gymwys i ddeunydd planhigion o’r genera a’r rhywogaethau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/72/EC fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(3)

1964 p.14. Diwygiwyd Adran 16 gan adran 4 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68); O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(5)

OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t.28, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2013/45/EU, OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20.

(6)

O.S. 2012/245 (Cy.39), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy.174), Rheoliadau 2(2) a 2(3); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources