2014 Rhif 522 (Cy. 63)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19471 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

2

Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19923 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru, wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.

3

Yn lle’r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 rhodder y Tabl canlynol—

Pensionable Pay

Contribution rate from 1 April 2014

Up to and including £15,000

11.0%

More than £15,000 and up to and including £21,000

12.2%

More than £21,000 and up to and including £30,000

14.2%

More than £30,000 and up to and including £40,000

14.7%

More than £40,000 and up to and including £50,000

15.2%

More than £50,000 and up to and including £60,000

15.5%

More than £60,000 and up to and including £100,000

16.0%

More than £100,000 and up to and including £120,000

16.5%

More than £120,000

17.0%.

Lesley GriffithsY Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.

Mae’r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy’n daladwy gan aelodau’r Cynllun sy’n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae’r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i’r Cynllun.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.