Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gwnaed
4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Mawrth 2014
Yn dod i rym
1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1).
Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.
2004 p.21. Diwygiwyd adran 34 gan adran 27 o Ddeddf Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 (p.25), a pharagraff 27 o Atodlen 8 iddi, ond pan wnaed y Gorchymyn hwn nid oedd y diwygiad eto mewn grym. Diwygiwyd adrannau 60 a 62 gan adrannau 9 a 10 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Cafodd y pwerau o dan adrannau 34 a 60 eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Trosglwyddwyd y pwerau i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).