Dehongli
3. Yn y rhan hon o’r Rheoliadau—
ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1);
ystyr “Rheoliadau 2010” (“2010 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012; ac
ystyr “Tribiwnlys Prisio” (“Valuation Tribunal”) yw Tribiwnlys Prisio Cymru a sefydlwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau 2010.
(1)
1992 p.14. Mewnosodwyd Atodlen 1B i’r Ddeddf honno gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).