RHAN 1Cyflwyniad
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3;
ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn unol â rheoliad 3(3);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf2;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a wnaed ar 10 Mawrth 2014;
ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan brif swyddog pob un o’r Byrddau Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 20093;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “prif swyddogion” (“chief officers”) yw prif swyddog pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac
ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).
RHAN 2Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor
Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor3
1
Mae aelodau o’r cyd-bwyllgor yn cynnwys—
a
y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig;
b
cadeirydd; ac
c
y swyddog-aelod a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.
2
Y swyddog-aelod at ddibenion rheoliad 3(1)(c) yw’r person a gyflogir i ymgymryd â swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn unol â chyfarwyddyd 3 o Gyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 20144.
3
Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef prif weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
4
Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 3(1)(a), rhaid i’r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y cyd-bwyllgor, a rhaid iddo bennu pa un a yw’r enwebiad am gyfnod penodol ai peidio.
Penodi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd4
1
Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i’r cyd-bwyllgor benodi is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor o blith y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig.
3
Bydd y penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu gwneud yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
4
Pan fo’r cyd-bwyllgor yn penodi’r is-gadeirydd yn unol â pharagraff (2) bydd y penodiad yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.
5
Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi.
Y gofynion cymhwystra i aelodau’r cyd-bwyllgor5
1
Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi’n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni’r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion perthnasol tra bo’n dal y swydd honno.
2
Ni chaiff swyddog-aelod ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i arfer swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans.
3
Ni fydd unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu sy’n aelod cyswllt neu’n brif swyddog y cyd-bwyllgor ond yn dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd, fel y bo’n briodol, fel prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu brif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol.
4
Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog, fel y nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.
Deiliadaeth swydd cadeirydd6
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.
2
Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.
3
Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(1).
5
Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
Deiliadaeth swydd is-gadeirydd7
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor.
2
Caniateir i is-gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd.
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 5(3) a pharagraff (4) caniateir i is-gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(2).
4
Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
5
Mae’r cyfeiriadau at ddeiliadaeth swydd yr is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ei ddeiliadaeth swydd fel aelod o’r cyd-bwyllgor.
Terfynu penodiad cadeirydd8
1
Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o’i swydd yn ddi-oed os byddant yn penderfynu—
a
nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
b
nad yw’n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i’r cadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.
2
Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd.
3
Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu’r cyd-bwyllgor a Gweinidogion Cymru yn ddi-oed os yw’r cadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
4
Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweiniodgion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd oni bai eu bod wedi eu bodloni —
a
bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
b
y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru.
5
Caiff cadeirydd ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw.
Atal cadeirydd dros dro9
1
Cyn gwneud penderfyniad i symud cadeirydd o’i swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod sy’n rhesymol yn eu barn hwy.
2
Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
3
Ni chaiff cadeirydd y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau’r cadeirydd.
RHAN 3Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor
Cyfarfodydd a thrafodion10
1
Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar reolau sefydlog i reoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.
2
Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â’r rheolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.
3
Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.
Pwerau’r is-gadeirydd11
Pan fo cadeirydd y cyd-bwyllgor—
a
wedi marw;
b
wedi peidio â dal ei swydd; neu
c
yn analluog i gyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,
bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd, yn ôl y digwydd.