NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a wnaed ar 10 Mawrth 2014 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau ambiwlans brys ac at ddiben arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu’r cyd-bwyllgor.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

(b)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor (rheoliad 4);

(c)y gofynion cymhwystra i aelodau o’r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); a

(d)deiliadaeth swydd, terfynu penodiad ac atal aelodau o’r cyd-bwyllgor dros dro (rheoliadau 6 i 9).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau’r is-gadeirydd (rheoliadau 10 ac 11).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeilio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.