RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3;

ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn unol â rheoliad 3(3);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf(1);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 a wnaed ar 10 Mawrth 2014;

ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan brif swyddog pob un o’r Byrddau Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prif swyddogion” (“chief officers”) yw prif swyddog pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac

ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor sy’n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).

(1)

Sefydlwyd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/2918 (Cy.286)).