xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor

Aelodaeth o’r cyd-bwyllgor

3.—(1Mae aelodau o’r cyd-bwyllgor yn cynnwys—

(a)y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig;

(b)cadeirydd; ac

(c)y swyddog-aelod a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

(2Y swyddog-aelod at ddibenion rheoliad 3(1)(c) yw’r person a gyflogir i ymgymryd â swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn unol â chyfarwyddyd 3 o Gyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014(1).

(3Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef prif weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

(4Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 3(1)(a), rhaid i’r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y cyd-bwyllgor, a rhaid iddo bennu pa un a yw’r enwebiad am gyfnod penodol ai peidio.

Penodi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd

4.—(1Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r cyd-bwyllgor benodi is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor o blith y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig.

(3Bydd y penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu gwneud yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

(4Pan fo’r cyd-bwyllgor yn penodi’r is-gadeirydd yn unol â pharagraff (2) bydd y penodiad yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.

(5Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi.

Y gofynion cymhwystra i aelodau’r cyd-bwyllgor

5.—(1Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi’n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni’r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion perthnasol tra bo’n dal y swydd honno.

(2Ni chaiff swyddog-aelod ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i arfer swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans.

(3Ni fydd unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu sy’n aelod cyswllt neu’n brif swyddog y cyd-bwyllgor ond yn dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd, fel y bo’n briodol, fel prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu brif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog, fel y nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.

Deiliadaeth swydd cadeirydd

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(3Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(1).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd is-gadeirydd

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2Caniateir i is-gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 5(3) a pharagraff (4) caniateir i is-gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(2).

(4Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

(5Mae’r cyfeiriadau at ddeiliadaeth swydd yr is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ei ddeiliadaeth swydd fel aelod o’r cyd-bwyllgor.

Terfynu penodiad cadeirydd

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o’i swydd yn ddi-oed os byddant yn penderfynu—

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu

(b)nad yw’n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,

i’r cadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.

(2Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd.

(3Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu’r cyd-bwyllgor a Gweinidogion Cymru yn ddi-oed os yw’r cadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweiniodgion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd oni bai eu bod wedi eu bodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru.

(5Caiff cadeirydd ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw.

Atal cadeirydd dros dro

9.—(1Cyn gwneud penderfyniad i symud cadeirydd o’i swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod sy’n rhesymol yn eu barn hwy.

(2Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff cadeirydd y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau’r cadeirydd.

(1)

2014 (Rhif 8).