- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae aelodau o’r cyd-bwyllgor yn cynnwys—
(a)y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig;
(b)cadeirydd; ac
(c)y swyddog-aelod a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.
(2) Y swyddog-aelod at ddibenion rheoliad 3(1)(c) yw’r person a gyflogir i ymgymryd â swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn unol â chyfarwyddyd 3 o Gyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014(1).
(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef prif weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
(4) Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 3(1)(a), rhaid i’r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y cyd-bwyllgor, a rhaid iddo bennu pa un a yw’r enwebiad am gyfnod penodol ai peidio.
4.—(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r cyd-bwyllgor benodi is-gadeirydd i’r cyd-bwyllgor o blith y prif swyddogion neu gynrychiolwyr enwebedig.
(3) Bydd y penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu gwneud yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Pan fo’r cyd-bwyllgor yn penodi’r is-gadeirydd yn unol â pharagraff (2) bydd y penodiad yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.
(5) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i’r angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi.
5.—(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi’n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni’r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion perthnasol tra bo’n dal y swydd honno.
(2) Ni chaiff swyddog-aelod ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i arfer swyddogaethau’r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans.
(3) Ni fydd unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu sy’n aelod cyswllt neu’n brif swyddog y cyd-bwyllgor ond yn dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd, fel y bo’n briodol, fel prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu brif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol.
(4) Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog, fel y nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.
(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(1).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Caniateir i is-gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(3) a pharagraff (4) caniateir i is-gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
(5) Mae’r cyfeiriadau at ddeiliadaeth swydd yr is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ei ddeiliadaeth swydd fel aelod o’r cyd-bwyllgor.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o’i swydd yn ddi-oed os byddant yn penderfynu—
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
(b)nad yw’n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i’r cadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.
(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd.
(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu’r cyd-bwyllgor a Gweinidogion Cymru yn ddi-oed os yw’r cadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweiniodgion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o’i swydd oni bai eu bod wedi eu bodloni —
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru.
(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw.
9.—(1) Cyn gwneud penderfyniad i symud cadeirydd o’i swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod sy’n rhesymol yn eu barn hwy.
(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau’r cadeirydd.
2014 (Rhif 8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: