xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 58 (Cy. 5)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed

14 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Ionawr 2014

Yn dod i rym

10 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 16(9), 17(1) a (6), 47(1), (2) a (5), 49(5), 50(1), (4) a (6), 51(1) a (2), 51A(2), (3) a (6) o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 2, 4, 4A a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1984 p.55; diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p.22) a diwygiwyd adran 47(1) gan adran 8 o’r Ddeddf honno a chan O.S. 1996/1905; diwygiwyd adrannau 50(1) a 51(1) gan O.S. 1996/1905 a mewnosodwyd adran 51A gan yr offeryn hwnnw; mewnosodwyd paragraff 4A o Atodlen 1 gan adran 8 o’r Ddeddf honno.

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 16(9), 17(1) a (6), 47(1), (2) a (5), 49(5), 50(1), (4) a (6), 51(1) a (2), 51A(2), (3) a (6) o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 2, 4, 4A a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).